NAWR • NOW | NESAF • NEXT | GORFFENNOL • PAST
LAURA FORD
HOT THEN COLD AND IN BETWEEN
12|09 - 25|10|25
lansiad • launch: Friday 12 September 18:00 - 21:00
-
[English below]
Mae TEN yn falch o gyflwyno arddangosfa o gerfluniau serameg gan yr artist amlwg o'r DU, Laura Ford
Mae Ford, a aned yng Nghaerdydd, yn enwog am ei chreaduriaid ffantastig, anthropomorffig - doniol a chwareus, ac ar adegau gydag ymyl sinistr. Mae ei ffigurau'n amlwg ddynol ac yn adnabyddadwy ond wedi'u cuddio gan wisgoedd a chymeriadau anifeiliaid, ar yr un pryd yn giwt ac yn rhyfedd, yn gysurus ac yn frawychus. Mae'r ffigurau'n tueddu o gael eu dal mewn cyfnod o emosiwn uchel - gyda'r wynebau wedi'u gorchuddio, gorfoda hyn y gynulleidfa i ymateb yn reddfol, gan gymryd ciwiau o ystumiau ac osgo y corff
Mae 'Hot then Cold and In Between’ yn arddangos canlyniadau llu o weithgarwch yng nghyfrwng serameg. Er ei fod yn amlwg drwy gydol ymarfer Ford - mae rhai gweithiau celf sydd yn rhan o’r arddanogsfa yn dyddio o 1998 - mae'r cynnydd mewn defnydd o glai a gwydreddau wedi bod yn ganlyniad ffrwythlon arall o'r symud o ganol Llundain i'r Matt Black Barn, stiwdio a chartref a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyrion Chichester. Mae nifer o ofodau stiwdio yn caniatáu yr holl elfennau ymarferol sydd ei angen ar gyfer gweithio gyda serameg, gyda'i amodau llwchlyd, gwlyb - nad yw'n ffafriol i'r awyrgylch glân, sych sydd ei angen ar gyfer gweithio gyda ffabrig, gwisg arferol Ford ar gyfer ei ffigurau jesmonite a dur
Mae'r stiwdio mawr, pwrpasol wedi caniatáu'r datblygiad a'r canolbwyntio hwn ar glai, ond mae hefyd yn adlewyrchu angen creadigol, dyfnach i Ford. Mae clai yn caniatáu ffordd o greu sydd yn gyflym, gan ddarparu ffurf ar unwaith o syniad. Trwy brosesau adeiladu â llaw, uno slabiau a chastiau cyflym, mae ffurfiau'n cael eu cerflunio a'u mowldio, ac mae naratifau'n dod i'r amlwg
Yma gwelwn anifeiliaid yn gwneud pethau dynol - cath yn sgïo, adar hungover, hybridau cwningen/ci yn cropian; lluniau llonydd o stori barhaus. Mae'r cerflun serameg mawr ‘The Snorkeler and the Seal’ yn rhoi'r pwyslais gweledol ar y creadur môr, y bod dynol wedi'i gofleidio fel anifail anwes, ac fel pe baent yn sefyll i gofnodi’r cyfarfod - ond rolau wedi'u gwrthdroi. Mae'r gyfres Stump, gyda rhifynnau'n ymestyn o 1998 i 2025, o foncyffion coed gyda choesau merch fach mewn Mary Janes coch. Dwy elfen wedi'u cyfuno heb ddiwedd amlwg i'r naill/dechrau i'r llall - natur yn llythrennol yn cwmpasu’r corff - sesiwn gwisgo-i-fyny o hwyl ddigyfyng, naïf. O! Theatr y cyfan!
Mae’r naïfrwydd canfyddedig hwn, sy'n gynhenid mewn plant ac anifeiliaid, yn cuddio effaith gwaith Ford yn feistrolgar - mae'r darluniau hyn o ymddygiad dynol, wedi'u dychmygu a'u hymgorffori mewn rhywbeth nad yw'n hollol ddynol, yn caniatáu inni ddod yn agos, gweld rhannau ohonom ein hunain yn cael eu hadlewyrchu yn ystumiau corfforol emosiynau, ac i werthuso ein hymateb
Mae'r arddangosfa hon yn dystiolaeth bellach i gyflawniadau Ford fel cerflunydd a storiwr - beth bynnag fo'i chyfrwng
•
TEN is proud to present an exhibition of ceramic sculptures by the prominent UK artist, Laura Ford
Cardiff-born Ford is renowned for her fantastical, anthropomorphic creatures - comical and playful, and at times with a sinister edge. Her figures are pointedly and recognisably human but masked by costumes and animal characters, simultaneously cute and weird, comforting and terrifying. The figures tend to be captured in the throws of high emotion - with faces covered, forcing the audience to respond instinctively, taking cues from postures and body language
'Hot then Cold and In Between’ showcases the results of a flurry of activity in the medium of ceramics. Although evident throughout Ford’s practice - some artworks on show date from 1998 - the surge in use of clay and glazes has been another fruitful result of the move from central London to the Matt Black Barn, a custom-built studio and home on the outskirts of Chichester. Multiple studio spaces allow for the practicalities required for working with ceramic with its dusty, wet conditions - which is not conducive with the clean, dry atmosphere needed for working with fabric, Ford’s usual costume for her jesmonite and steel figures
The large, dedicated space has allowed for this development and concentration on clay, but it also reflects a deeper, creative need for Ford. Clay allows a way of making quickly, providing an immediate visualisation of an idea. Through the processes of hand-building, joining slabs and quick casts, forms are sculpted and moulded, and narratives emerge
Here we see animals doing human things - a skiing cat, hungover birds, crawling bunny/dog hybrids; stills of an ongoing tale. The large ceramic sculpture ‘The Snorkeler and the Seal’ places the visual emphasis on the sea creature, the human hugged like a pet, and as if posing to capture the meeting - but roles reversed. The Stump series, with editions spanning from 1998 to 2025, are of tree trunks with little girl legs in red Mary Janes. Two elements melded together with no discernible end of one/beginning of the other - nature quite literally consuming the body - a dressing-up session of unbridled, naive fun. The theatre of it all!
It’s this perceived naivety, inherent in children and animals, which masterfully belies the impact of Ford’s work - these illustrations of human behaviour, imagined and embodied in something not wholly human, allows us to get close, to see parts of ourselves reflected in the physical stances of emotions, and to evaluate our response
This exhibition is further testament to Ford’s accomplishments as both a sculptor and storyteller - whatever her medium
-
Wednesday - Saturday 10:30 - 17:00
The Coach House, Rear of 143 Donald Street, Cardiff, CF24 4TP
+44 (0) 29 2060 0495
-
Artworks can be purchased online or by contacting the gallery.
Ein Celf • Own Art
Own Art is a national initiative providing interest-free credit for the purchase of original artwork. The purchase is split over 10 interest-free instalments, with no deposit, up to £2500.
To purchase an artwork through Own Art contact the gallery to be sent an online form: info@gallery-ten.co.uk | 029 2060 0495
Klarna | Purchase is split over 4 interest-free instalments [option available at checkout]
VAT Prices stated on this website are exclusive of VAT Margin (8.3%). VAT is added at checkout if applicable.